Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi cynllun i adeiladu Tai ar gyfer Graddedigion.
Gwybodaeth
ategol:
Manylion am y Cynlluniau Tai Cenedlaethol Arfaethedig i
Raddedigion
Cyfres chwyldroadol o Henebion Cenedlaethol a ddisgrifir gennyf fan
hyn, ac mae gan yr adeiladau hyn swyddogaeth sy’n effeithio
ar dwf cymdeithasol craidd. Tyrau o gyfleoedd a chanolfannau o
ailddatblygu; y Cynlluniau Tai Cenedlaethol i Raddedigion
yw’r agwedd fwyaf real ar y byd fel y bydd yn y dyfodol.
Wedi’u hadeiladu yn yr un dull â’n canolfannau
siopa a’n hysbytai mwyaf modern; mae’r campweithiau hyn
yn ysblennydd ac yn gyraeddadwy i lawer iawn o bobl. Rwy’n
dychmygu ystadau o adeiladau sydd cyfuwch ag wyth neu ddeuddeg
llawr. Wedi’u hadeiladu o fframiau dur; mae eu ffurf yn llyfn
a’u swyddogaeth yn gadarn. Gall y trigolion fwynhau bwyd a
gwin da, coffi, ffasiwn a dawnsfeydd. Y cyfan o fewn ffiniau a
chyfleusterau eu hadeiladau hynod.
Mae’r lefelau stryd isaf yn cynnwys strydoedd, canolfannau
siopa, a rhesi o dai. Y syniad yma yw bod y datblygiadau modern
iawn hyn yn well nag ymdrechion blaenorol i greu tai torfol, a
hynny am fod cyfleusterau siopa ac adloniant yn rhan ohonynt.
Mae ‘mannau Canfod Swyddi i Raddedigion’ ar lefel y
brif stryd yn cynnig mwy na chyngor ar yrfaoedd yn unig.
Mae’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau yno yn hwyluso
dealltwriaeth lawn o’r union raddau sydd ar y Gofrestr
Breswylwyr. Gwaith y Rheolwyr yn y ‘mannau Canfod Swyddi i
Raddedigion’ wedyn yw cynorthwyo graddedigion i ganfod eu lle
yn yr economi. Gellir neilltuo lle i wasanaethau proffesiynol
eraill yn y cynlluniau pensaernïol, a fyddai’n
hwyluso’r gwaith o sefydlu busnesau. Gellir cynnull
tasgluoedd amlddisgyblaethol i weithio’n uniongyrchol ar y
materion sydd fwyaf perthnasol i sefydliad myfyrwyr
blaengar.
Bydd lle i fusnesau wasanaethu a chyflogi’r preswylwyr yn
strwythurau’r adeiladau mwyaf. Mae’r ddwy neu dair
lefel isaf yn cynnwys nifer o unedau, gan gynnwys siopau bwyd,
caffis, bariau, ac ati. Mae lle yn yr adeiladau hefyd ar gyfer
swyddfeydd masnachol/ sifil i dasgluoedd o fyfyrwyr arbenigol a
chyrff proffesiynol weithio ar hyrwyddo’r canolfannau o ran
yr economi. Caiff yr un dulliau cynllunio ac adeiladu a ddefnyddir
i lunio’r adeiladau ar gyfer meysydd economaidd allweddol fel
ffasiwn a’r cyfryngau arwain at well lefelau
cyflogaeth.
Mae’n bwysig bod y sector Graddedigion yn cael cefnogaeth gan
y Llywodraeth os yw’r arian y mae’r Llywodraeth
wedi’i fenthyca dal yn ddilys. O ran y Llywodraeth yn
ariannu rhent y Graddedigion sy’n byw yno, mae’r system
yn llawer mwy diogel o ran colli arian os yw’r Llywodraeth
hefyd yn Landlord. Mae’r Cynlluniau Tai Cenedlaethol i
Raddedigion yn gampweithiau cymdeithasol-wleidyddol a all brofi eu
hunain, ac a fydd yn profi eu hunain, wrth i’r wlad hon a
gwledydd yn fyd-eang edrych tua’r dyfodol.
Yn olaf, rwy’n awgrymu byd ar gyfer graddedigion a gaiff ei
reoli’n syml a llyfn, fel bod pawb sy’n llwyddo yn y
Brifysgol yn dod o hyd i le priodol mewn cymdeithas sy’n
datblygu. Mae hyn, yn syml, yn golygu stiwardiaeth ddoeth ar
gymwysterau, a’u cyfeirio at fusnes.
Prif ddeisebydd: GWYRDDISM
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013